ADEILADU BYD
Cyfres ar-lein o sgyrsiau yw ADEILADU BYD sy’n cael eu harwain gan y bobl greadigol, yr awduron a’r artistiaid y tu ôl i greu GALWAD a chyfoedion ysbrydoledig yn eu meysydd. Mae’r gyfres yn cael ei chynnal gan yr ymchwilydd a’r newyddiadurwr ymchwiliol llwyddiannus, Shirish Kulkarni.
HANNAH BEACHLER A SHIRISH KULKARNI
“Ni yw’r cynfas mae’r stori’n byw arno. Rhaid i ni greu'r cynfas yna – a phenderfynu a fydd symudiad ynddo, sut fydd trawiadau’r brwsh yn edrych, beth fydd y lliwiau” – Hannah Beachler
Y dylunydd cynhyrchu Black Panther Hannah Beachler sy’n archwilio’r gwaith o ddyfeisio’r dyfodol gyda’r newyddiadurwr ac aelod o Dîm Creadigol GALWAD Shirish Kulkarni – yn ogystal â chreu hanes yn y diwydiant ffilm.
EMILY BURNETT AC ABI MORGAN
“Mae angen athro da ar y rhan fwyaf ohonon ni sy'n dweud, rwyt ti’n wych, galli di wneud hyn, dal ati. Os oes gen ti rywbeth i’w ddweud, fe wnaiff pobl wrando.” – Abi Morgan
Y sgriptiwr llwyddiannus Abi Morgan (The Iron Lady, Shame, Suffragette) sy’n sgwrsio gydag un o awduron GALWAD Emily Burnett yn trafod eu heiliadau o ysbrydoliaeth ac ysgrifennu ar gyfer y sgrin yn 2022.
CIARAN FITZGERALD A JACK THORNE
“Mae actorion anabl yn cael eu castio mewn rhannau erbyn hyn oherwydd bod ganddyn nhw bwysigrwydd yn hytrach nag oherwydd tocenistiaeth. Maen nhw wedi creu bwlch yn y drws – nawr mae’n rhaid i ni gydio yn y drws a’i orfodi i agor, fel na fydd hynny byth yn stopio.” – Jack Thorne
Y sgriptiwr llwyddiannus Jack Thorne (Harry Potter and the Cursed Child; His Dark Materials; Shameless) sy’n trafod sut mae pobl anabl yn cael eu trin yn y diwydiant ffilm ac adloniant gydag un o awduron GALWAD, Ciaran Fitzgerald.