top of page
Anthony Matsena in Blaenau Ffestiniog Photo James O'Doherty_edited.png

GWYBODAETH DIGWEDDGLO

DIWEDDGLO – 2 HYDREF

GWYBODAETH AM EICH YMWELIAD


Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Flaenau Ffestiniog ddydd Sul 2 Hydref ar gyfer y diweddglo byw. Darllenwch y wybodaeth isod cyn eich taith.
 
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dal i fyny’n llawn trwy ddilyn ymchwiliadau Tomos, newyddiadurwr o Flaenau,sy’n adrodd ar ddigwyddiadau byw wrth iddynt ddatblygu.

YMWELD Â BLOG TOMOS >

CYRRAEDD Y LLEOLIAD

 

Bws gwennol am ddim

  • Bydd bysiau gwennol am ddim yn rhedeg o orsaf Blaenau Ffestiniog yng nghanol y dref i Antur Stiniog sef siwrnai tua 4 munud mewn car. Bydd bysus yn rhedeg rhwng 5.00pm a 6.00pm. Bydd bysiau hygyrch hefyd yn rhedeg (gweler y wybodaeth isod).

  • Os ydych yn gyrru i mewn i'r dref defnyddiwch un o feysydd parcio canol y dref.

  • Gallwch hefyd gerdded o dref Blaenau Ffestiniog i Antur Stiniog, os dymunwch. Mae'n cymryd tua 23 munud.

Beicwyr

  • Mae croeso i chi feicio i'r digwyddiad. Cofiwch fod y digwyddiad yn rhedeg tan ar ôl iddi dywyllu - gwnewch yn siŵr bod gennych chi oleuadau ar eich beic ac rydyn ni'n argymell eich bod chi'n gwisgo dillad gwelededd uchel. Gellir clymu beiciau i'r ffens ym maes parcio Lefel 1 yn Zipworld.

Parcio ar y safle

  • Teithiwch mewn car dim ond os oes angen. Mae parcio ar y safle, gan gynnwys parcio bathodyn glas, yn gyfyngedig a rhaid archebu lle ymlaen llaw. Rhaid i chi ddangos cadarnhad e-bost eich bod wedi archebu lle parcio. Rhaid i unrhyw un sy'n parcio ar y safle fod ag o leiaf 3 o bobl yn y car (gan gynnwys gyrrwr). Mae hyn yn helpu i gefnogi ein nodau cynaliadwyedd, yn ogystal â gwneud y mwyaf o'r lle sydd ar gael ar y safle.

 
Os oes angen cludiant hygyrch arnoch i'r lleoliad, anfonwch e-bost i access@collective.cymru os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes a byddwn yn ei drefnu ar eich cyfer.
 

GWYBODAETH YMARFEROL

  • Drysau, bysus a meysydd parcio ar y safle yn agor am 5pm. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6pm a gorffen tua 8pm.

  • Cynhelir y digwyddiad yn gyfan gwbl yn yr awyr agored.

  • Byddwch yn sefyll am lawer o'r digwyddiad.

  • Byddwch yn cael eich tywys ar hyd taith gerdded o tua 800m (hanner milltir), mewn rhai mannau i fyny'r allt ac ar dir anwastad cyson. Mae llwybrau hygyrch rhwng y ddau leoliad ar gyfer y rhai sydd ei angen. Rhaid archebu hwn ymlaen llaw wrth archebu eich tocynnau drwy Eventbrite, gan e-bostio access@collective.cymru neu galw heibio i’n gweld yn Siop GALWAD.

  • Byddwch yn cael eich cyfarwyddo i sefyll am ran o'r sioe ar inclein. Os yn ystod y cyfnod hwn rydych yn teimlo’n anghyfforddus, rhowch wybod i aelod o’r tîm stiwardio os gwelwch yn dda.

  • Mae GALWAD yn brosiect amlieithog. Mae'r digwyddiad hwn yn plethu Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Saesneg, sy'n golygu y gallwch ddilyn y stori waeth pa ieithoedd rydych chi'n eu siarad.

  • Sylwch fod y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Arts, a bydd gennym ni ffotograffwyr yn bresennol, felly mae’n bosibl y byddwch ar gamera.

BETH I'W WISGO

  • Mae Blaenau Ffestiniog 850 troedfedd uwch lefel y môr felly gryn dipyn yn oerach na threfi a dinasoedd eraill. Gwisgwch yn gynnes a byddwch yn barod am law.

  • Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod â dillad dal dŵr os yn bosib.

  • Bydd y digwyddiad yn cynnwys llawer o sefyll a cherdded ar dir anwastad. Gwisgwch esgidiau cryf.

  • Sylwch: ni fydd unrhyw un sy'n gwisgo sodlau uchel yn cael mynediad i'r digwyddiad.

PETHAU I DDOD GYDA CHI

  • Eich hun, dillad cynnes, dillad glaw, arian parod a cherdyn ar gyfer nifer fach o gonsesiynau, potel y gellir ei hailddefnyddio.

  • Peidiwch â dod â’ch cadeiriau eich hun gyda chi (darperir cadeiriau i unrhyw un sydd â gofynion mynediad - ewch i'n tudalen Mynediad am fwy o wybodaeth.)

  • Ni chaniateir dod â’ch alcohol eich hun i’r safle.

  • Rydym yn cadw'r hawl i chwilio bagiau ar unrhyw adeg.

CYNALIADWYEDD

  • Rydym wedi ceisio bod mor gyfrifol â phosibl o ran cynaliadwyedd ac effeithiau.  Gallwch ddarganfod mwy am ein hymagwedd yn Saesneg neu Gymraeg, a chael awgrymiadau ar gyfer byw'n gynaliadwy yma.

  • Helpwch ni drwy wneud dewisiadau teithio cynaliadwy, yn ddelfrydol cerdded, beicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu rannu car (gweler liftshare.com).

  • Dewch â photel ddŵr wag y gellir ei hailddefnyddio gyda chi - rhaid i'r rhain fod yn wag.  Gallwch gael poteli dŵr wedi'u hail-lenwi ar y safle.

  • Bydd biniau gwastraff ac ailgylchu ar y safle, ond cofiwch fynd ag unrhyw sbwriel adref i'w ailgylchu.

  • Os gwelwch yn dda parchwch yr amgylchedd a bioamrywiaeth, gan nodi bod ystlumod ac weithiau dyfrgwn ar y safle.

RHANNWCH EICH BARN

  • Rhannwch eich profiad o’r diweddglo byw ar gyfryngau cymdeithasol, gan dagio @GALWAD22 a defnyddio’r hashnod #GALWAD.

UNRHYW GWESTIYNAU ERAILL?

  • Galwch heibio Siop Galwad ar 2 Newborough Street, oddi ar y Stryd Fawr yng nghanol Blaenau Ffestiniog. Mae Siop Galwad ar agor heddiw a fory 9yb-5yh ac o 10yb-5.30yh ar ddydd Sul 2 Hydref.

  • Gallwch ffonio ein llinell wybodaeth ar  07436 997239 rhwng 9yb a 5yh heddiw a fory a 9yb – 8yh ar ddydd Sul 2 Hydref.

Ni allwn aros i rannu eiliadau olaf GALWAD gyda chi. Gobeithio y cewch chi brofiad gwirioneddol gofiadwy. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, rhowch wybod i ni drwy gysylltu info@collective.cymru

Image: Aisha-May Hunte and Alexandria Riley in GALWAD Photography: Warren Orchard and Mo Hassan. Art direction: Peter&Paul 

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • LinkedIn
  • YouTube
  • Spotify
bottom of page