UCHAFBWYNTIAU STORI
Ar ddiwedd yr wythnos, darlledwyd GALWAD fel pecyn 4.5 awr o hyd ar Sky Arts.
Os ydych chi’n danysgrifiwr Sky, gallwch wylio’r pecyn cyfan ar wasanaeth ‘Sky On Demand’.
Os nad oes gennych chi Sky, gallwch wylio’r tri fideo yma:
GALWAD: YR WYTHNOS GALWODD Y DYFODOL
Daliwch i fyny ar y stori wythnos o hyd gyda'r pecyn uchafbwyntiau detholedig hwn a ddarlledwyd yn wreiddiol ar Sky Arts yn cynnwys perfformiadau wedi'u ffrydio'n fyw a monologau o 2052.
Dilynwch Efa a'i ffrindiau wrth iddi wneud ei ffordd ar draws Cymru gan geisio cyrraedd adref i'r dyfodol - gan ddod ar draws negeseuon o'r dyfodol ar ei thaith.
GALWAD: YN FYW O FLAENAU FFESTINIOG
Darlledwyd y darllediad byw o’r diweddglo o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ar Sky Arts ddydd Sul 2 Hydref – ble mae Efa’n adrodd ei neges olaf i 2022 cyn dychwelyd i’r dyfodol.
GALWAD: 2052
Y ddrama 60 munud o hyd ble gwelwn Efa yn dod ar draws byd y dyfodol yn 2052 ac yn cwrdd â rhai o'r cymeriadau y tu ôl i'r negeseuon o'r dyfodol.
Cynhyrchwyd gan ffilmiau Mad as Birds.