top of page

CYHOEDDI CWMNI IFANC GALWAD


Mae deuddeg o bobl ifanc anhygoel o bob cwr o Gymru wedi cael eu dewis i ffurfio Cwmni Ifanc GALWAD. Bydd y grŵp yn cydweithio â thîm GALWAD i ddatblygu a darparu GALWAD: STORI O’N DYFODOL, sy’n rhan o UNBOXED: Creativity in the UK.


Bydd GALWAD: STORI O’N DYFODOL yn gweld talent fwyaf mentrus Cymru ym maes sgrin, perfformiad a sectorau digidol yn creu stori aml-lwyfan gyda chyfranogwyr ar draws Cymru a fydd yn datblygu mewn amser real dros wythnos ar ddiwedd mis Medi 2022 – gan archwilio dyfodol posib ymhen 30 mlynedd.


Mae GALWAD yn weithred greadigol ac uchelgeisiol o ddychymyg Cymru sydd wedi’ ysbrydoli gan Ddeddf Lleisiant Cenedlathau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a bydd yn gwahodd cynulleidfadoedd i archwilio cyfyng-gyngor moesol a phosibiliadau y dyfodol.


Mae ffurfio Cwmni Ifanc GALWAD yn adeiladu ar rwydweithiau ac arferion rhagorol sefydliadau Cymreig wrth weithio gyda phobl ifanc – gan gynnwys partneriaid GALWAD - National Theatre Wales, Frân Wen a Disability Arts Cymru, a’i bartneriaid cymunedol - Swansea’s Ethnic Minorities and Youth Support Team Wales (EYST), Cell B ym Mlaenau Ffestiniog a'r Merthyr Tydfil Leisure Trust.


Gwreiddio lleisiau ifanc wrth wneud prosiect diwylliannol mawr


Mae Cwmni Ifanc GALWAD yn cynnwys deuddeg unigolyn sydd â diddordebau, sgiliau, rhagolygon, dyheadau a phrofiadau bywyd gwahanol. Mae’r grŵp yn cynnwys beirdd ac awduron; myfyrwyr a graddedigion o’r diwydiannau creadigol; artistiaid a cherddorion; pobl ifanc sy’n frwd dros yr amgylchedd a materion cymdeithasol a nifer o siaradwyr Cymraeg, sy’n creu rhwydwaith newydd cyffrous ac amrywiol sy’n cynrychioli lleisiau gwahanol o bob cwr o Gymru. Lleisiau a fydd yn hollbwysig yn helpu i ddylanwadu, siapio a chyfleu stori GALWAD.


Gan weithio gyda thîm GALWAD, bydd aelodau’r Cwmni Ifanc yn creu eu teithiau creadigol personol eu hunain ar draws holl feysydd y prosiect – gan gynnwys y celfyddydau, technoleg greadigol, cyfryngau ffilm a sgrin, newyddiaduraeth, a gwyddoniaeth amgylcheddol a hinsawdd. Byddan nhw hefyd yn cael cefnogaeth, hyfforddiant a mentora wedi’u teilwra’n arbennig i’w galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eu profiadau dysgu pwrpasol.


Bydd y Cwmni Ifanc hefyd yn cwrdd dros gyfres o chwe chwrs preswyl a ddyluniwyd ar y cyd i archwilio a deall y prosesau creadigol a’r bobl y tu ôl i GALWAD, i gwrdd â sefydliadau partner, creu rhwydwaith proffesiynol ar draws Cymru a datblygu eu hymarfer creadigol eu hunain a’u sgiliau arwain.


Cyflwyno’r Cwmni Ifanc


Yr aelod ieuengaf o’r Cwmni Ifanc yw Rha Arayal, sy’n fyfyriwr Lefel Uwch deunaw oed, o Abertawe. Awdur Prydeinig o dras Nepalaidd yw Rha, a gyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth gyda Gen Z Publishing yr haf diwethaf. Mae Rha yn mwynhau ysgrifennu am faterion cymdeithasol fel hiliaeth, cynhesu byd-eang, ac effeithiau’r pandemig.


Yr aelod hynaf yw Deane Bean, sy’n chwech ar hugain oed (25 oed adeg gwneud cais) sydd hefyd yn dod o Abertawe. Graddiodd Deane mewn Ffasiwn a Chyfathrebu Gweledol ac mae wedi bod yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac adwerthu, ond mae’n gobeithio ail-greu ei yrfa greadigol a chelfyddydol drwy gymryd rhan yn y Cwmni Ifanc.


Mae Beth Handley, sy’n ddwy ar hugain oed, yn dod o Drefynwy ac ar hyn o bryd mae’n astudio am radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n fardd ac yn awdur sydd wedi cael ei chyhoeddi’n rhyngwladol gyda chynllun Unheard Voices Theatr y Sherman. Fel menyw ifanc Anabl, mae Beth yn frwd dros hyrwyddo lleisiau pobl ifanc anabl eraill.


Mae Alex Stallard, sy’n bump ar hugain oed ac o Gaerdydd wedi graddio mewn marchnata yn ddiweddar. Daw Alex o gefndir amlddiwylliannol cyfoethog gyda gwreiddiau teuluol yng nghymoedd De Cymru. Cafodd ei fagu gan rieni Byddar ac mae ganddo sgiliau iaith arwyddion. Mae Alex yn frwd dros gerddoriaeth, chwaraeon, yr amgylchedd, a’r newid cadarnhaol a dylanwadol y gall y llwybrau hyn ei gynnig.


Mae hanner Cwmni Ifanc GALWAD yn siaradwyr Cymraeg – gyda siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a nifer o gyfranogwyr dwyieithog – gan sicrhau bod y Cwmni Ifanc a GALWAD yn gweithio yn y Gymraeg ac yn ei dathlu.


Mae Hedydd Ioan, sy’n bedair ar bymtheg oed ac o Benygroes, Dyffryn Nantlle yn creu cynnwys digidol yn rhan amser i gwmni theatr y Frân Wen. Mae Hedydd, sy’n disgrifio ei hun fel rhywun sy’n hoffi ‘creu pethau’, wrth ei fodd â ffilm, cerddoriaeth a chydweithio â phobl ifanc greadigol eraill yng Nghymru.


Mae Buddug Roberts yn awdur ugain oed o Dregarth yng ngogledd Cymru, ac ar hyn o bryd mae’n astudio am radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Buddug yn frwd dros ddefnyddio treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru a’i hiaith i wasanaethu’r wlad yn well yn y dyfodol.


Mae Laurie Thomas, sy’n bedair ar bymtheg oed, yn fyfyriwr ffilm o Gaerfyrddin. Ar ôl cael plentyndod yng nghanol diwylliant a chwedloniaeth angerddol Cymru, mae ganddi angerdd dwfn dros adrodd straeon a sut gellir cyfleu hunaniaeth drwy’r straeon rydyn ni’n eu dweud.


Mae Barney Andrews, sydd wedi graddio mewn ffilm, yn bedwar ar hugain ac yn dod o Drawsfynydd, gogledd Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel taflunydd yng Nghell B ym Mlaenau Ffestiniog – un o brosiectau partner GALWAD, a dyma sut y daeth i wybod am y Cwmni Ifanc.


Mae Shakira Morka, sy’n bedair ar bymtheg oed, yn dod o Abertawe yn wreiddiol ond ar hyn o bryd mae’n astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bryste. Gyda phrofiad byw o nifer o hunaniaethau sy’n cael eu tangynrychioli, mae gan Shakira bersbectif unigryw ar werthoedd a materion cymdeithasol ac mae ganddi ddiddordeb mewn mynegi’r syniadau hyn drwy ysgrifennu a’r celfyddydau.


Mae dau berson ifanc sydd ddim yn wreiddiol o Gymru ond sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru wedi’u cynnwys yng Nghwmni Ifanc GALWAD.


Mae Anna Amalia Coviello, sy’n bump ar hugain oed, o’r Eidal yn wreiddiol. Mae’n artist cymunedol yng Nghaerdydd ac yn ymarferydd celfyddydau therapiwtig sy’n gobeithio lledaenu ymwybyddiaeth o bŵer y celfyddydau i wella a chefnogi pobl i archwilio eu potensial creadigol drwy ei gofod celfyddydau cymunedol ‘Well Wagon’ sy’n cael ei bweru gan feiciau.


Mae Paul Kaiba, sydd o Awstria yn wreiddiol, yn ymarferydd theatr a senograffydd, sy’n byw ac yn gweithio yn ne a gorllewin Cymru ar hyn o bryd. Fe wnaeth Paul astudio’r celfyddydau perfformio a senograffeg, yn ogystal â rheoli llwyfan a theatr dechnegol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei waith yn ymwneud ag ymchwilio ac archwilio materion cymdeithasol-wleidyddol drwy ddulliau theatrig.


Ar hyn o bryd mae Gwyn Daggett, sy’n ddwy ar hugain oed ac o Aberhonddu, yn astudio crefftau Prysgoedio a Phren Gwyrdd yng Ngholeg y Mynydd Du ger Talgarth. Mae Gwyn yn gitarydd a chyfansoddwr sy’n frwdfrydig iawn dros waith corfforol yn yr awyr agored, fel trin coed, plygu perthi a chodi waliau cerrig sych. Mae’n mwynhau crwydro’r mynyddoedd a nofio mewn afonydd a llynnoedd.


Proses recriwtio hygyrch, anffurfiol a chynwysol


Bu GALWAD yn gweithio gyda thîm o bobl ifanc i gyd-ddylunio proses ddethol hygyrch, agored, anffurfiol a chynhwysol. Roedd y broses hon yn gwneud gwerth craidd GALWAD o gynhwysiant radical yn ganolog iddi ac roedd yn canolbwyntio ar sgyrsiau ac nid ar feini prawf. Arweiniodd hyn at amrywiaeth eang o bobl ifanc yn cynnig eu hunain ar gyfer y cyfle.


Yn ogystal â’r 12 lleoliad ar gyfer y Cwmni Ifanc, mae GALWAD wedi ymrwymo i barhau â’r sgwrs gyda’r holl bobl ifanc sydd wedi cysylltu â ni. Bydd GALWAD yn gweithio gyda phob person ifanc i ddod o hyd i gyfle i ymgysylltu’n greadigol gan sicrhau bod y prosiect o fudd i gynifer o bobl ifanc â phosibl.


Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol GALWAD, Claire Doherty: “Mae gan Gymru hanes eithriadol o waith arloesol gyda phobl ifanc - o Ethnic Minorities Youth Support Team (EYST) i Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, o Democracy Box Omidaze i waith y gweithwyr llawrydd a'r sefydliadau sydd wrth galon Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru (YANC).


“Mae GALWAD yn adeiladu ar y rhwydweithiau a’r arferion hyn i wreiddio rhwydwaith Cymru gyfan wrth galon creu prosiect diwylliannol arwyddocaol. Sut allech chi ddychmygu stori o’n dyfodol heb bobl ifanc wrth ei gwraidd?”

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page