Fel rhan o’n partneriaeth gyda chwmni theatr Frân Wen, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd eu Cyfarwyddwr Artistig, Gethin Evans, yn gweithio gyda ni fel Cyfarwyddwr Artistig Perfformio Byw GALWAD.
Yn wreiddiol o Ddinbych, ymunodd Gethin â chwmni’r Frân Wen yn 2019. Cyn hynny, roedd Gethin yn gweithio fel cyd-Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Pluen, tra’i fod wedi cyfarwyddo cynyrchiadau theatr uchel eu parch, gan gynnwys Woof, MAGS ac Ynys Alys.
Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Perfformio Byw GALWAD a Chyfarwyddwr Artistig Frân Wen:
“Rwyf wrth fy modd yn ymuno â Chwmni Creadigol GALWAD fel rhan o fy rôl fel Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, i adeiladu ar enw da hirhoedlog Cymru am waith uchelgeisiol, safle-benodol, wedi’i greu ar y cyd. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi’i wneud gyda chymunedau ledled Cymru wrth i ni barhau i gyd-greu prosiect creadigol gwirioneddol unigryw.
“Bydd GALWAD yn dathlu’r Gymru gyfoes a’n talent aruthrol o ran cynyrchiadau theatr. Rydym yn arbennig o gyffrous am y cyfle i ddatblygu a rhoi llwyfan i leisiau ifanc trwy’r perfformiad byw, mewn cydweithrediad â chwmni ifanc GALWAD, cwmni ifanc Frân Wen a phartneriaid cymunedol gan gynnwys CellB.”
Yn ogystal â phenodiad Gethin, rydym hefyd wedi cyhoeddi cyfle i Gyfarwyddwr Cynorthwyol o ogledd Cymru weithio ochr yn ochr â Gethin ar elfennau perfformio byw wythnos o hyd GALWAD, gan ganolbwyntio ar y digwyddiad terfynol mawr ym Mlaenau Ffestiniog ddiwedd mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i:
コメント