DYDD 1
DYDD 1 - Y GORFFENNOL
Cyn y gallwn edrych ymlaen, mae'n bwysig inni edrych yn ôl a deall yr hyn a ddaeth â ni yma. Pa ddatblygiadau sydd wedi eu gwneud dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mewn technoleg, cyfathrebu a chymdeithas? A pham ei bod hi'n bwysig dychmygu'r dyfodol? Clywch am y gwaith anhygoel a wneir gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, ac ymarferwch eich ymennydd a'ch corff gydag ychydig o Ioga Hanes! Mae yna hefyd recordiad o sesiwn holi-ac-ateb byw gydag Orri Páll Jóhannsson, aelod seneddol yng Ngwlad yr Iâ, un o wledydd gwyrddaf Ewrop. Ac yna, ymwelydd syrpreis…o’r dyfodol…?
FIDEOS
GWEITHGAREDDAU
PDFs
Ailysgrifennu'r Dyfodol - Defnyddio darllediadau newyddion a chreu straeon i ddelweddu'r 2052 yr hoffem ei chreu.
Economi Gylchol - Archwilio cylchred bywyd cylchol o natur a'i gymharu â chylch bywyd cynhyrchion o waith dyn.
Image: Behind-the-scenes filming the GALWAD 2052 drama. Photo by Kirsten McTernan