DYDD 3
DYDD 3 – LLE
Mae lle rydyn ni'n byw yr un mor bwysig â sut rydyn ni'n byw, ac mae dychmygu'r lleoedd hynny yn golygu y gallwn ni eu hadeiladu. Mae Efa yn dweud wrthym am y cludiant a welodd yn y dyfodol, a gallwch ddewis pa rai sydd â'r waw ffactor mewn gêm ryngweithiol hwyliog - a yw ceir hydrogen yn well na thelegludo? Mae cyfle hefyd i feddwl am yr hyn yr hoffech ei weld pe baech yn agor eich drws ffrynt yn 2052, a chlywed beth oedd gan eraill i'w ddweud. Mae yna hefyd sesiwn holi-ac-ateb gyda Hester Turner, therapydd sy'n byw mewn eco-bentref - efallai y bydd rhai yn dweud ei bod hi eisoes yn byw yn y dyfodol!
FIDEOS
GWEITHGAREDDAU
ADNODDAU A CHYSYLLTIADAU 'R CWRICWLWM
Creu Eich Cymuned - Gweithgaredd i ddylunio eich cymuned 2052, gan ddod ag elfennau i mewn i'w gwneud mor gynhwysol a chynaliadwy â phosibl.
A Allem ni fyw heb Arian? - Dysgu am adnoddau cyfyngedig ein planed a cheisio creu parti gan ddefnyddio'r sgiliau a'r adnoddau yn eich pentref yn unig.
Gwyliau VR - A allai Realiti Rhithwir fod y ffordd orau i weld y Ddaear heb gostio'r Ddaear?
Delwedd: Tu-ôl-i’r-llenni yn ffilmio drama deledu GALWAD 2052. Llun gan Kirsten McTernan.