DYDD 5
DYDD 5 - Y DYFODOL
Nawr ein bod wedi dychmygu sut y gallai Cymru ddisgleiriach edrych, mae angen inni weithio allan sut i wireddu'r weledigaeth honno. Clywch am y camau bach y bydd Efa a phobl eraill yn eu cymryd i wella'r byd a meddyliwch am eich un chi! Efallai y byddwch chi'n dechrau tyfu eich llysiau eich hun, neu efallai o hyn ymlaen y byddwch chi'n gwisgo dillad ail-law yn unig. Dechreuodd pob un o newidiadau mwyaf y byd gydag atebion cadarnhaol i broblem, wrth i ni ddysgu yn y sesiwn holi-ac-ateb gyda'r newyddiadurwr atebion Shirish Kulkarni. Wedi'r cyfan: os na allwn ddychmygu dyfodol cadarnhaol, sut y byddwn yn ei adeiladu?
FIDEOS
ADNODDAU A CHYSYLLTIADAU'R CWRICWLW
Symudiad y Dyfodol – Defnyddio symudiadau creadigol a dawns i helpu i lunio’r dyfodol yr hoffem fyw ynddo.
Gweithredu - Mynnwch ysbrydoliaeth gan ysgolion ledled Cymru ar sut i droi eich syniadau yn weithredoedd a dechrau mudiad dros newid yn eich ysgol a'ch cymuned.
Delwedd: Disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin yng Nghaerdydd yn cymryd rhan yn rhaglen addysg Wythnos yn y Dyfodol i ysgolion GALWAD. Llun gan James O'Doherty