Cafodd stori GALWAD ei hadrodd dros gyfnod o wythnos ar draws sawl llwyfan digidol a darlledu, gyda pherfformiadau dyddiol yn cael eu ffrydio’n fyw, gan arwain at ddarllediad byw 90 munud o hyd o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru. Cyfunwyd cynhyrchiad theatr â thechnegau darlledu teledu i gynhyrchu stori amser real gyffrous a aeth â’r gwyliwr ar daith ar draws y Gymru gyfoes.
Tywyswyd y gwylwyr drwy’r stori gan y newyddiadurwr ffuglennol, Tomos, drwy cyfrwng blog dyddiol a oedd yn casglu holl dystiolaeth negeseuon o 2052 ac yn adrodd ar daith Efa ar draws Cymru wrth iddi hi a’i ffrindiau ymateb i’r stori oedd yn datblygu. Archwiliwch blog Tomos yma.
Delwedd: Llun llonydd o GALWAD yn Fyw: Aisha-May Hunte fel Efa ar Ddydd Llun 26ain Medi ar Draeth Abertawe.