CYNALIADWYEDD
Aeth GALWAD ati i fod yn esiampl o arfer da o ran datblygu cynaliadwyedd yn y celfyddydau creadigol.
Cafodd ei hysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fframwaith arloesol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwneud ymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd a chymunedau ar gyfer y dyfodol.
-
Cyfrannu at net sero carbon drwy leihau allyriadau o gynhyrchu pŵer, lleihau'r defnydd o geir, arlwyo cynaliadwy, a lleihau'r defnydd o ddeunyddiau newydd.
-
Mesurau mewnosod a gwrthbwyso carbon. Gosodwyd 166T o allyriadau CO2 yn erbyn 155T o arbedion, a gwrthbwyswyd dros 3,000T gan gefnogaeth i fentrau arbed ynni lleol a phlannu 5,000 o goed.
-
Gweithredu economi gylchol trwy ddefnyddio deunyddiau ail-law ar gyfer setiau cynhyrchu, gan gynnwys gwisgoedd, ac yna dod o hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer y deunyddiau hynny ôl-gynhyrchu, megis anfon pren i fenter gymunedol ailgylchu pren.
-
Lleihau gwastraff mewn ffyrdd eraill, megis osgoi plastig untro ar gyfer arlwyo, didoli gwastraff ar y safle i'w ailgylchu a'i gompostio, ac anfon bwyd dros ben y criw i fanc bwyd.
-
Gwarchod yr amgylchedd a bioamrywiaeth, cynnal asesiadau amgylcheddol o safle'r digwyddiad, diogelu poblogaethau ystlumod a dyfrgwn, a chael gwared ar rywogaethau planhigion ymledol.
-
Meithrin lles tîm, megis darparu sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar rheolaidd.
DARLLENIAD PELLACH AR EIN TAITH GYNALIADWYEDD:
GWYLIWCH FUNUD GYDA…
Delwedd: Boo Golding fel Keefer mewn llun llonydd o’r ddrama deledu GALWAD. Trwy garedigrwydd Mad as Birds.