UNBOXED
Mae UNBOXED: creadigrwydd yn y DU yn ddathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd, a gynhelir ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac ar-lein tan fis Hydref 2022.
Maen nhw’n codi’r caead ar ddeg syniad newydd syfrdanol, wedi’u siapio ar draws gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg gan feddyliau gwych sy’n gweithio mewn cyweithiau annisgwyl. Mae digwyddiadau na ellir eu methu a phrofiadau bythgofiadwy wedi bod yn dod i leoedd a gofodau ledled gwledydd Prydain: o drefi arfordirol a chanol dinasoedd i ardaloedd syfrdanol o harddwch naturiol.
Gallwch fwynhau UNBOXED wyneb yn wyneb, ar y teledu, ar y radio ac ar-lein – yn rhad ac am ddim. Ac maen nhw eisiau i chi gymryd rhan ym mhob rhan o'r flwyddyn ryfeddol yma: plymio i mewn i'n rhaglenni dysgu ledled Prydain, cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau arbennig, hyd yn oed chwarae rhan ganolog wrth ddod ag un neu fwy o'r deg prosiect rhyfeddol yma’n fyw.
UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yw’r rhaglen greadigol fwyaf a mwyaf uchelgeisiol a gyflwynwyd yn yr ynysoedd yma erioed. Mae’n cael ei hariannu a’i chefnogi gan bedair llywodraeth gwledydd Prydain, ac mae’n cael ei chomisiynu ar y cyd â Chymru Greadigol, EventScotland a Chyngor Dinas Belffast. Ymunwch â miliynau o bobl yn yr archwiliad nodedig yma o sut mae gan greadigrwydd – ein creadigrwydd ni – y grym i newid y byd.