top of page
Nitin Ganatra as Namit in GALWAD 2052 Photo Kirsten McTernan.jpg

SUT I WYLIO

Roedd GALWAD yn stori a adroddwyd mewn amser real dros gyfnod o wythnos ar gyfryngau cymdeithasol a sianeli darlledu. Sylfaen y stori yw’r syniad, am un wythnos, fod y dyfodol yn cysylltu efo 2022, a’r hyn sy’n ganolbwynt i’r stori yw Efa, sydd wedi cyfnewid gyda’i hun o’r dyfodol.

 

Cafodd stori GALWAD ei hadrodd gan gymeriad ffuglennol Tomos (wedi’i chwarae gan Rhodri Meilir), newyddiadurwr o Flaenau Ffestiniog, oedd yn casglu tystiolaeth dyddiol ar ei flog o’r stori eithriadol hon – o ffrydiadau byw o daith Efa mewn episodau dyddiol, at negeseuon a delweddau oedd yn dod o’r dyfodol. Wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, plethodd storïau Tomos ac Efa gyda’i gilydd mewn digweddglo syfrdanol, ryfeddol, cyn i Efa ddychwelyd i’r dyfodol, a’r Efa ifanc i’w phresennol. Gwelwn y cymeriadau o 2052 rydym wedi’u cyfarfod drwy’r negeseuon yn ddiweddarach mewn drama 60-munud sy’n datgelu stori lawn 2052.

Gan fod GALWAD yn stori amser real, ceir gwahanol ffurf o ddal i fyny gyda’r cyfan gan fod y diweddglo byw eisoes wedi bod.

1. PROFWCH GALWAD FEL Y DATBLYGODD DROS YR WYTHNOS FYW

  
Yn ystod yr wythnos, bu i’r cymeriad ffuglennol Tomos W. Jones gymryd drosodd gyfryngau cymdeithasol GALWAD gan bostio ffrydiadau byw o 2022 a negeseuon o 2052.
 
Rhoddodd Tomos diweddariad dyddiol ar ei flog, fel roedd pethau’n digwydd.
 
Os ewch at ei flog o ddydd Llun tan ddydd Sul, gallwch archwilio pob diweddariad yn eu trefn a gweld sut datblygodd y stori mewn amser real. Mae’r ffrydiadau byw o daith Efa wedi’u pinio fel y prif ddarn o gynnwys. Mae blog dyddiol Tomos yn cynnig cipolwg defnyddiol o’r hyn ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.

2. GWYLIO’R CYNNWYS GOLYGIEDIG AR GYFER SKY ARTS

 
Ar ddiwedd yr wythnos, darlledwyd GALWAD fel pecyn 4.5 awr o hyd ar Sky Arts. Roedd hyn yn cynnwys:

Gallwch wylio’r tri fideo yma:

3. ARCHWILIO’R RHESTR CHWARAE

 
Porwch GALWAD fel y mynnwch, gan ddefnyddio’n rhestr chwarae ar YouTube. Plymiwch i mewn a dewiswch rannau o’r stori:

  • GALWAD YN FYW - dengys daith Efa o Abertawe i Ferthyr, i Flaenau yn 2022 drwy un safbwynt.  Fe’i hysgrifennwyd gan Owen Sheers ac Emily Burnett, ac fe’i perfformwyd gan gast ifanc. Ar ôl i chi orffen yr episodau byw, rydym yn argymell  eich bod yn gwylio’r ddrama deledu i weld beth ddigwyddodd yr un wythnos yn 2052.

  • NEGESEUON O 2052 -  cyfres o fonologau a phob un wedi’i ysgrifennu gan awdur Cymraeg gwahanol, yn ogystal â’r negeseuon gan gast y ddrama.  

  • TOMOS Mae cyhoeddiadau dyddiol Tomos yn rhoi cyflwyniad i bob rhan o’r stori. Mae’r rhestr chwarae yma hefyd yn cynnwys ei araith olaf hynod bwerus ar ddechrau’r diweddglo. Perfformiwyd gan Rhodri Meilir.

  • HYGYRCHEDD: dewiswch o gapsiynau caëedig, Iaith Arwyddo, Disgrifiad Sain yn y Gymraeg a disgrifiad Sain Saesneg.

  • TU-ÔL-I’R’LLENNI: archwilio sut y cafodd GALWAD ei greu drwy gyfres o ffilmiau am y tîm a'r broses gynhyrchu.

bottom of page